User:Jason.nlw/Adroddiad terfynol Preswyliad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cyflwyniad
[edit]Y Wicipediwr Preswyl
[edit]Wicimediwr (neu Wicipediwr) Preswyl yw wicimediwr sy’n neilltuo amser i weithio’n fewnol mewn sefydliad. Yn y bôn, mae’r rôl yn ymwneud â galluogi’r sefydliad hwnnw a’i aelodau i barhau perthynas gynhyrchiol â’r gwyddoniadur a’i gymuned ar ôl i’r cyfnod preswyl ddod i ben. Mae’r Wicipediwr Preswyl hefyd yn cydweithio â staff i ddigido, crynhoi a threfnu adnoddau y gellir eu rhannu â’r gymuned Wikimedia.
Nod y cyfnod preswyl hwn yw hyrwyddo dealltwriaeth o brosiectau Wikimedia ymhlith staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn ogystal â sefydliadau GLAM yng Nghymru yn fwy cyffredinol, trwy drefnu gweithdai a digwyddiadau.
Cefndir y prosiect
[edit]Bu Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) yn cydweithio am y tro cyntaf â Wicimedia DU yn 2012/13 pan gafodd llawer o ffotograffau LlGC eu rhannu trwy Gomin Wikimedia i gefnogi’r prosiect MonmouthpediA. Yn 2013, dyfarnwyd GLAM y Flwyddyn i’r Llyfrgell Genedlaethol. Yn ystod 2014 cysylltodd Robin Owain, Rheolwr Wicimedia Cymru, â’r Llyfrgell gan awgrymu penodi Wicipediwr Preswyl o dan drefniant cyd-gyllido. Yn dilyn trafodaethau a chyfweliadau mewnol, penodwyd Wicipediwr Preswyl o blith staff y Llyfrgell ar gontract 12 mis. Cychwynnodd y Wicipediwr ei swydd ar 19 Ionawr 2015 ar gontract tan 30 Ionawr 2016. Yna cafodd y prosiect ei ymestyn bob hyn a hyn tan 31 Gorffennaf 2017.
Yn 2013 penderfynodd y Llyfrgell Genedlaethol ar bolisi i beidio â cheisio unrhyw hawl ar atgynhyrchiadau o ddelweddau o’r parth cyhoeddus. Teimlwyd bod y preswyliad Wicimedia yn ffordd dda o roi’r polisi hwn ar waith wrth fynd ati i ryddhau cynnwys parthau cyhoeddus trwy Gomin Wikimedia. Y gobaith oedd y byddai hyn yn dwyn ffrwyth i benderfyniad polisi 2013. Roedd gan y Llyfrgell ddiddordeb hefyd i gefnogi’r iaith Gymraeg ac roedd y Wicipedia Cymraeg yn gyfle i wneud hyn.
Prif amcanion y cyfnod preswyl
[edit]Ionawr 2015 - Ionawr 2016
[edit](Mae’r ‘Amcanion’ (A) yn cydymffurfio ag amcanion strategol Wikimedia UK, ac roeddem yn mapio amcanion y preswylio yn erbyn y rhain [1] )
- Nodi a rhyddhau casgliadau digidol i Gomin Wikimedia dan drwydded agored briodol (A.1.1-2)
- Cynnal o leiaf 6 digwyddiad cyhoeddus neu weithdai (A.1.2)
- Gweithio gyda’r sefydliad a’i bartneriaid i hyrwyddo a datblygu mynediad/gwybodaeth agored (A.1.3 a A.3.2)
- Achosi newidiadau yn niwylliant, canllawiau a pholisi LlGC i hyrwyddo gwybodaeth agored a mynediad agored i gasgliadau LlGC. (A.3.3)[1]
Ionawr 2016 - Mawrth 2017
[edit](Yn ystod y prosiect, bu Wikimedia UK yn adolygu ei strategaeth a chyflwynodd amcanion strategol newydd fel llinyn mesur wrth drefnu pob rhaglen. Ceir rhestr a manylion amdanynt yma: - https://backend.710302.xyz/https/wikimedia.org.uk/wiki/Wikimedia_UK_Strategy_2016. O’i gymharu â’r amcanion cynt, mae teithi meddwl LlGC a WMUK ynghylch y prosiect wedi ymestyn ac ehangu, ond ar yr un pryd mae bellach yn fwy penodol a manwl.)
- Cydlynu uwchlwythiadau o gynnwys casgliadau’r Llyfrgell i’r Comin ar drwydded agored berthnasol, annog trydydd parti i’w hailddefnyddio a chodi ymwybyddiaeth o’u heffaith yn y Llyfrgell a thu hwnt.
- Ymchwilio i ddulliau y gall prosiectau eraill Wikimedia elwa o gynnwys LlGC (AS1)
- Parhau i gefnogi cynllun Wiciysgolhaig y Llyfrgell. (AS1)
- Ymchwilio i ddefnydd posibl o WiKidata fel modd o wella mynediad at ddeunyddiau treftadaeth a diwylliant a’r dehongliad ohonynt. (AS1)
- Hyrwyddo cysylltiadau digidol a chynnal gweithgareddau a fyddai’n galluogi’r defnydd gorau o brosiectau Wikimedia ymhlith staff a defnyddwyr y Llyfrgell. (AS1)
- Cefnogi ac ymgysylltu â grŵp gwirfoddolwyr LlGC sy’n gweithio ar brosiectau Wikimedia. (AS1)
- Cydweithio â staff i greu proses lle gellir uwchlwytho cynnwys pan fo’r gweithiwr preswyl wedi gadael. Sefydlu system briodol ar lefel polisi ac yn nhermau arferion gwaith cyfredol lle bo’n bosibl. (AS2)
- Ymgysylltu â sefydliadau diwylliannol eraill yng Nghymru megis Amgueddfa Genedlaethol Cymru, llyfrgelloedd ac archifdai ledled Cymru a/neu sefydliadau addysg Uwch i’w hannog, eu cefnogi a’u helpu i sylweddoli manteision yr ymdriniaeth mynediad agored a chanfod gweithgareddau posibl a gysylltir â phrosiectau Wikimedia. (AS2)
- Cydweithio â Chasgliad y Werin Cymru a Llywodraeth Cymru gan gynnwys ymchwilio i’r posibilrwydd o weithgareddau ym maes arloesol y Rhaglen Ymdoddi. (AS2)
- Cydweithredu â phennaeth Mynediad Digidol yn y gwaith o sicrhau bod hygyrchedd/rhannu agored yn elfen annatod o weithgareddau’r Llyfrgell. Defnyddio llwyddiant y prosiect hwn hyd yma i ddatblygu’r achos dros gyflwyno hyn i randdeiliaid a’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau. Trawsnewid newidiadau mewn polisïau yn weithredoedd realistig a chynaliadwy gan dimau neu staff penodol.
- Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chanfyddiadau gan symud ymlaen at y Tîm Gweithredol a phwyllgorau eraill y Llyfrgell yn ogystal â Wikimedia UK ac, os yn briodol, mewn digwyddiadau allanol. (AS2)
- Treialu a datblygu model i fynd â Wicipedia i ysgolion - ymsefydlu cynnwys LlGC yn ddwfn mewn ysgolion trwy Wicipedia, a chyflwyno tasgau’n ymwneud â Wicipedia i Fagloriaeth Cymru. Gallai’r themâu ganolbwyntio ar lythrennedd digidol a chynhwysiant, sgiliau iaith, cynhwysiant cymdeithasol a digidol. (AS3)
Crynodeb o weithgareddau a chanlyniadau
[edit]Amcan Strategol 1 (yn unol â strategaeth WMUK)
[edit]Cynyddu ansawdd a nifer y testunau a gaiff eu cynnwys, sydd ar hyn o bryd heb eu cynrychioli’n ddigonol ar Wikipedia a phrosiectau Wikimedia eraill.
Sesiynau Golygu
[edit]Ledled Cymru yn ystod y cyfnod preswyl, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau a gweithdai golygathon gyda’r nod o hyfforddi golygyddion newydd a gwella’r cynnwys ar Wicipedia a phrosiectau Wicimedia eraill. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn dilyn thema benodol, a chynhaliwyd sawl un mewn partneriaeth ag eraill.
- 19 Golygathon Wicipedia wedi eu cynnal
Mynychwyr | Cyfrifon newydd | Erthyglau newydd | Erthyglau wedi gwella |
---|---|---|---|
221 | 95 | 286 | 1464 |
- 1 Golygathon Wikidata wedi eu cynnal
Mynychwyr | Cyfrifon newydd | Erthyglau newydd | Erthyglau wedi gwella |
---|---|---|---|
14 | 1 | 2403 | 4179 |
- 11 sesiwn hyfforddi/gweithdai wedi eu cynnal
Mynychwyr | Cyfrifon newydd | Erthyglau newydd | Erthyglau wedi gwella |
---|---|---|---|
120 | 23 | 6 | 16 |
Figurau am y cyfnod Ionawr 19, 2015 - Ebrill 30, 2017
Cyfradd dal gafael ar ddefnyddwyr newydd
[edit]Ar Wikipedia, mae cadw golygyddion sydd newydd eu hyfforddi yn un o’r heriau mwyaf wrth ddatblygu’r gymuned olygyddol, ac yn hanesyddol mae cyfraddau dal gafael yn isel iawn. Fodd bynnag, roedd 57% o olygyddion a gymerodd ran am y tro cyntaf mewn digwyddiadau a drefnwyd gan y Wicipediwr Preswyl yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dal i wneud y gwaith ar ôl 3 mis. Mae hyn yn anarferol ac arwyddocaol iawn. Mae’n bur debyg mai sefydlu menter golygu Wicipedia fel opsiwn i wirfoddolwyr yn LlGC sy’n rhannol gyfrifol am y gyfradd dal gafael uchel gan fod llawer o fynychwyr digwyddiadau yn rhan o dîm gwirfoddoli LlGC, neu wedi mynd ymlaen yn ddiweddarach i ymuno â’r tîm.
Rhannu Cynnwys Digidol
[edit]O’r cychwyn cyntaf, roedd rhannu cynnwys digidol gyda phrosiectau Wikimedia yn un o brif amcanion y prosiect. Yn fuan, daeth ystadegau ymweliadau â thudalennau ar gyfer erthyglau’n cynnwys delweddau LlGC yn fesur allweddol o lwyddiant y prosiect o safbwynt rheolaeth LlGC. Ym Mlwyddyn 2 y prosiect, dechreuodd y Wicipediwr Preswyl hefyd rannu setiau data o LlGC trwy Wikidata a’r brif fantais yma i LlGC oedd gallu rhannu data’n rhwydd ac agored ar lwyfan data agored dibynadwy, a gallu cyfoethogi, dadansoddi a ‘delweddu’ ei data (h.y. ei gwneud yn fwy gweledol) mewn ffyrdd na fyddai’n bosibl wrth ddefnyddio catalog traddodiadol y Llyfrgell.
Delweddau
[edit]Rhannodd LlGC sawl casgliad cyflawn o ddelweddau â Chomin Wikimedia, gan gynnwys Casgliad Tirlun Cymru – casgliad o 4500 o brintiau ac ysgythriadau o dirweddau Cymru’r 17eg-19eg Ganrif. Rhannwyd llawer o ddelweddau eraill gan gynnwys mapiau hanesyddol, llawysgrifau a llyfrau a brintiwyd mewn cyfnod cynnar.
Mae dau gasgliad sylweddol arall sy’n cynnwys 5000 o bortreadau Cymreig a 600 o weithiau mewn ffrâm wedi cael eu dewis i’w huwchlwytho i’r Comin yn y dyfodol agos.
Mae defnydd o ddelweddau gweladwy mewn prosiectau Wikimedia yn anarferol o uchel am gyfnod preswyl. Mae sawl ffactor yn gyfrifol am hyn. Yn gyntaf, roedd LlGC yn cynnal digwyddiadau oedd yn canolbwyntio’n benodol ar ddewis erthyglau Wikipedia ar Gymru nad oedd yn cynnwys delweddau, ac ychwanegu delweddau LlGC lle bo’n briodol. Yn ail, mae preswyliad LlGC wedi arwain at greu eitemau Wikidata ar gyfer llawer o’i delweddau, ac mae’r delweddau sydd wedi’u hatodi ar eitemau Wikidata yn cyfrif at gyfanswm y delweddau sy’n cael eu hailddefnyddio.
Ystadegau Delweddau
Delweddau wedi lwytho | Defnydd | Defnydd unigryw | Nifer o hits |
---|---|---|---|
11385 | 9560 | 5772 (50.7%) | 262,452,038 |
Figurau am y cyfnod Ionawr 19, 2015 - Ebrill 30, 2017
-
Un o'r copiau gynharaf o map 2ail Ganrif gan Ptolemi, 1486
-
'Boy Destroying Piano' gan Philip Jones Griffiths, tua.1961
-
Castell Dolbadarn, gan J.M.W. Turner, tua.1799
-
'Flea' - delwedd enwog gan Robert Hooke yn Micrographia, 1665
-
Harri VII, brenin Lloegr ar eu orsedd, a'r delwedd cynharadd o'r fab Harri VIII, brenin Lloegr yn llefen yn y cefndir, c.1503-4
Wikidata
[edit]Tyfodd y cyfraniadau i Wikidata yn gyson trwy gydol y prosiect, yn union fel y tyfodd brwdfrydedd tîm rheoli LlGC tuag at y prosiect. Y rheswm pennaf am y ffigyrau hyn yw penodiad Ysgolhaig Preswyl Wikidata sydd wedi cymell ymgysylltiad ac ymwneud llyfrgelloedd â Wikidata ac offer dadansoddi a graffigwaith cysylltiedig.
Ystadegau
Eitemau a crëwyd | Golygiadau | Nifer o bytes ychwanegwyd |
---|---|---|
6,825 | 255,623 | 91,742,088 |
Figurau am y cyfnod Ionawr 19, 2015 - Ebrill 30, 2017
Dalfannau (Placeholders) Erthyglau Wikidata
[edit]Yn dilyn trafodaeth, penderfynodd y Wicipediwr Preswyl gyflwyno a datblygu’r briodwedd Dalfan Erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg - y wikipedia mwyaf o bell ffordd i roi’r offer hwn ar waith - sy’n creu dalfan erthyglau yn awtomatig gan ddefnyddio Wikidata ar gyfer cynnwys coll ar Wikipedia.
- Mae’n bosibl bod 3.5 miliwn o dudalennau dalfan ar y Wicipedia Cymraeg
- Oddi ar 31 Mai 2017 mae 10,000 o’r rhain wedi’u mynegeio a gellir eu chwilio ar Google
Mae’r dalfannau hyn yn galluogi siaradwyr Cymraeg i gael mynediad at wybodaeth ar filiynau o destunau trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’n annog golygyddion i greu erthyglau ar gyfer testunau dalfan. Y gobaith yw datblygu’r dechnoleg hon fel bod y dalfannau’n ymdebygu’n fwyfwy i’r erthyglau go iawn. Mae’r Wicipediwr Preswyl wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â chymuned defnyddwyr Wiki a’r tîm Wikidata yn Yr Almaen er mwyn cefnogi’r modd y mae’r adnodd hwn yn cael ei weithredu a’i ddatblygu.
Cynnwys 3ydd parti
[edit]Erbyn diwedd y prosiect roedd y Wicipediwr Preswyl yn ymwneud fwyfwy â helpu eraill i ryddhau eu cynnwys ar drwydded agored trwy brosiectau Wikimedia. Isod ceir dadansoddiad o gasgliadau sylweddol trydydd parti a rannwyd gyda chymorth LlGC a’i Wicimediwr Preswyl.
Ystadegau
Perchennog y casgliad | Math | eitemau a rhyddhawyd |
---|---|---|
CADW | Eitemau data | 27,000 |
Sain Records | Clipiau Sain 30 eiliad | 7200 |
Sain Records | cloriau Albwm | 497 |
Medwyn Jones | Ffotograffiau o Bandiau | 268 |
Ochr 1/Antena | Ffotograffiau o Bandiau | 54 |
Gweithio gyda Gwirfoddolwyr
[edit]Ar y cychwyn, doedd datblygu cymuned gynaliadwy o Wicipedwyr gwirfoddol yn y Llyfrgell Genedlaethol ddim yn darged i’r prosiect. Fodd bynnag, wrth i’r prosiect gael ei draed o dano daeth yn amlwg bod gan y Llyfrgell gymuned o wirfoddolwyr brwdfrydig, cyfoethog ei hadnoddau ac wedi’i rheoli’n dda. Ymddangosai’n rhesymol felly i gynnig cyfle iddynt ymgysylltu â phrosiectau Wikimedia.
Dechreuodd aelodau o dîm gwirfoddol y Llyfrgell fynychu Golygathonau wedi’u trefnu gan Wicipediwr Preswyl LlGC a datblygwyd sawl prosiect yn benodol ar gyfer y tîm o wirfoddolwyr.
Yn dilyn llwyddiant sawl prosiect yn seiliedig ar Wikipedia, cytunodd rheolwr gwirfoddolwyr LlGC i gynnwys yr arfer o gyfrannu at Wikipedia fel opsiwn swyddogol i bob gwirfoddolwr oedd yn ceisio am waith gyda LlGC. Daeth hyn i rym ym mis Tachwedd 2016, ac ers hynny mae nifer y gwirfoddolwyr sy’n gofyn am gael cyfrannu i Wikipedia wedi cynyddu’n sylweddol. Ym mis Mawrth 2017 yn unig, treuliodd gwirfoddolwyr mwy na 100 o oriau yn golygu Wikipedia. Ffeithlun Wicipop
Canlyniadau prosiectau gwirfoddol
Pwnc y Prosiect | Cyfranogwyr | Erthyglau newydd | Erthyglau wedi gwella |
---|---|---|---|
Bywgraffiadur (Wikidata) | 13 | 20 | 66 |
Papurau Newydd | 9 | 100 | 24 |
Bywgraffiadur (Wikipedia) | 5 | 304 | 319 |
Prosiect Cyfieithu | 4 | 4 | 4 |
Cyfanswm | 31 | 428 | 413 |
Figurau am y cyfnod Ionawr 19, 2015 - Ebrill 30, 2017
Prosiect Wicipop
[edit]Ar y 1af o Orffennaf 2016 aeth y Wicipediwr Preswyl a Robin Owain i gwrdd â chynrychiolwyr adran Gymraeg Llywodraeth Cymru i drafod y posibiliadau o gydweithio ar brosiectau i wella maint ac ansawdd y cynnwys ar y Wicipedia iaith Gymraeg. Arweiniodd hyn maes o law at LlGC yn gwneud cais am grant o £20,000 gan yr adran Gymraeg i redeg prosiect 3 mis gyda’r nod o wella cynnwys iaith Gymraeg y deunydd ar Gerddoriaeth Bop. Cafodd y prosiect ei redeg ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, LlGC a Wikimedia UK.
Prif dargedau’r prosiect oedd:
- Creu 500 o erthyglau newydd ar y Wicipedia Cymraeg
- Cynnal 3 golygathon ar draws Cymru
- Llunio adroddiad ar ddefnyddio technoleg i awtomeiddio’n rhannol y broses o greu erthyglau newydd.
Cyflawnwyd neu rhagorwyd ar yr holl dargedau, a chafodd swm sylweddol o ddeunydd ei roddi gan drydydd parti ar drwydded agored i’w ddefnyddio fel rhan o’r prosiect. Mae hyn yn cynnwys rhyddhau testun Y Selar (cylchgrawn) gan y BBC a Phrifysgol Bangor, a rhyddhau clipiau sain a ffotograffau gan Recordiau Sain ac eraill. [1]
Canlyniadau
Cyfranogwyr | Golygathonau | Erthyglau newydd | Eitemau cyfryngau wedi'u rhyddhau |
---|---|---|---|
40 | 3 | 783 | 8000 |
Gwelliant yng nghyfanswm y cynnwys yn y cyfnod preswylio
[edit]Isod gwelir ffigyrau am gyfanswm y cynnwys a ryddhawyd/grëwyd ar brosiectau Wikimedia yn ystod wikiy cyfnod preswylio gan gynnwys gwelliannau a wnaed i’r cynnwys fel rhan o brosiectau eilaidd a digwyddiadau a roddwyd i’r Wicipediwr Preswyl eu rheoli yn ystod y preswylio.
Wicipedia
Cyfrifon newydd | Erthyglau newydd | Erthyglau wedi gwella | Nifer o bytes ychwanegwyd | |
---|---|---|---|---|
Cyfanswm | 135 | 10,684 | 16,169 | 121,129,065 |
Comin Wikimedia
Delweddau a rhyddhawyd | Sain a rhyddhawyd | |
---|---|---|
Cyfanswm | 12,385 | 7200 |
Wikidata
Eitemau data a rhyddhawyd | |
---|---|
Cyfanswm | 33,825 |
Amcan Strategol 2 (yn unol â strategaeth WMUK)
[edit]Cefnogi datblygiad gwybodaeth agored yn y DU trwy gynyddu dealltwriaeth a chydnabyddiaeth o werth gwybodaeth agored ac argymell newidiadau ar lefel sefydliadol, sectoraidd a pholisi cyhoeddus.
Eiriolaeth
[edit]
Er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i fanteision mynediad agored ac ymgysylltu â phrosiectau Wikipedia, sefydlwyd cyfrifon Twitter yn y Gymraeg a’r Saesneg fel bod modd rhannu newyddion am y prosiect. Hefyd cafodd blogiau rheolaidd eu defnyddio i adrodd am agweddau o’r prosiect. Mae’r preswyliad hefyd wedi denu diddordeb sylweddol y cyfryngau yng Nghymru a’r preswylydd wedi cael ei gyfweld sawl tro ar gyfer y teledu, radio, cylchgronau a gwefannau newyddon. Yn ail hanner y prosiect, cafwyd cyfle hefyd i rannu profiadau a chanlyniadau’r prosiect mewn amrywiol gynadleddau GLAM. Arweiniodd hyn at gyfleoedd i greu partneriaethau ac ysbrydoli eraill i ymwneud â phrosiectau Wikimedia
Mae’r Wicipediwr Preswyl wedi cyflwyno astudiaeth achos i gyhoeddiad sydd ar fin ymddangos ac sy’n dwyn y teitl ‘Open Licensing for Cultural Heritage’ dan olygyddiaeth Gill Hamilton a Fred Saunderson. Hefyd, ar y cyd ag Alex Stinson, Sefydliad Wikimedia, mae e wrthi’n ysgrifennu pennod ar annog gwirfoddolwyr i weithio mewn llyfrgelloedd, ar gyfer cyhoeddiad sydd ar ddod gan OCLC ar Wikipedia a Llyfrgelloedd.
Cyfanswm | |
---|---|
Sylwadau Twitter | 2,155,700 |
Blogs | 21 |
Ymddangosiadau teledi a radio | 22 |
Y gwasg print ac arlein | 16 |
Ystudiaethau achos | 2 |
Nifer o pobl sydd wedi mynychu cyflwyniadau | 600 |
Figurau am y cyfnod Ionawr 19, 2015 - Ebrill 30, 2017
Sicrhau bod mynediad agored yn elfen graidd o Lyfrgell Genedlaethol Cymru a’i phartneriaid.
[edit]Roedd sicrhau bod mynediad agored yn greiddiol o fewn y Llyfrgell Genedlaethol ac o blith ei phartneriaid allweddol yn agwedd bwysig o’r preswyliad. Credir bod sefydlu mynediad agored ar lefel polisi a’i weithredu yn allweddol i sicrhau etifeddiaeth tymor hir y preswyliad. Heb os nac oni bai, roedd cytuno a gweithredu ar newidiadau mor hanfodol mewn sefydliad yng nghrafangau cyni, gyda phwysau i greu mwy o incwm o’i asedau, yn un o’r heriau mwyaf.
Roedd sefydlu mynediad agored yn broses parhaus oedd yn gofyn am sawl ymdriniaeth wahanol.
Ymgysylltiad staff â Wikipedia
[edit]Roedd sawl aelod o staff wedi dangos diddordeb mewn cyfrannu at brosiectau Wikimedia ar lefel unigol, ac roedd 45 o fynychwyr y golygathonau yn aelodau o staff LlGC. Cafodd dau aelod o staff eu hyfforddi i gynorthwyo gyda digwyddiadau golygathon, derbyniodd 2 arall hyfforddiant sylfaenol er mwyn cefnogi gwirfoddolwyr sy’n gweithio ar brosiectau Wici a gofynnodd un aelod o staff am hyfforddiant fel ei fod yn gallu cywiro a diweddaru Wikipedia wrth iddo fewnbynnu deunydd clyweled newydd i gasgliadau’r Llyfrgell.
Serch hynny, roedd nifer o staff a ddangosodd ddiddordeb mewn cyfrannu yn methu â gwneud hynny o fewn oriau gwaith, naill ai oherwydd llwyth gwaith neu brinder staff.
Staff a mynychodd sesiwn cyflwyniad i Wicipedia | Staff a mynychodd Golygathonau | Staff wedi derbyn hyfforddiant Wici fel rhan o'i waith |
---|---|---|
44 | 45 | 5 |
Figurau am y cyfnod Ionawr 19, 2015 - Ebrill 30, 2017
Ymgysylltu â phartneriaid y Llyfrgell
[edit]Casgliad y Werin, Cymru
Sganio eitemau gyda Chasgliad y Werin Cymru yn nigwyddiad ‘Rhannu a Golygathon – Y Wladfa Gymreig’
Yn gynnar yn y prosiect, bu’r Wicipediwr Preswyl yn cyfnewid syniadau â Chasgliad y Werin Cymru, hwb treftadaeth ddigidol, er mwyn i GLAMs Cymru a’r cyhoedd rannu cynnwys, storïau ac atgofion. Ar hyn o bryd, mae Casgliad y Werin ond yn cynnig Trwydded Archif Greadigol anfasnachol i gyfranwyr wrth iddynt drosglwyddo cynnwys. Fodd bynnag, trwy broses o gydweithredu mae bellach wedi ymrwymo i newid drosodd i’r system drwyddedu Comin Creu (Creative Commons) gan gynnig amrywiol drwyddedau yn y dyfodol, yn eu plith CC-BY-SA neu drwydded agored debyg heb gyfyngiadau masnachol. Roedd y gweithgareddau cydweithio’n cynnwys:
- Cyd-drefnu a chynnal digwyddiad ‘Golygathon a Rhannu’
- Treialu’r drwydded CC-BY-SA gyda grŵp bychan o gyfranwyr
- Monitro effaith cynnwys CC-BY-SA ar lwyfannau Wikimedia
- Uwchlwytho tua 2000 o ddelweddau LlGC o’r Comin i wefan Casgliad y Werin.
Prosiect Cymru Dros Heddwch
Prosiect a gyllidir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yw Cymru Dros Heddwch ac fe’i sefydlwyd yn 2014. Yn fras, bwriad y prosiect yw coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf a dathlu cyfraniad Cymru i heddwch trwy raglen eang o ymgysylltu cyhoeddus.
Bu’r Wicipediwr Preswyl wrthi’n sicrhau y byddai gweithgareddau’n seiliedig ar Wikipedia yn elfen graidd o’i rhaglen estyn allan, a chynhaliodd sawl digwyddiad oedd yn anelu at hybu’r broses hon.
- Gweithdy Wicipedia Heddychwyr Cymru gyda phlant ysgol yn rhan o achlysur lansio’r prosiect yn LlGC
- Golygathon galw heibio Cymru Dros Heddwch ar gyfer pobl ifanc yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2016
- Sesiwn hyfforddiant Wikipedia ar gyfer staff a gwirfoddolwyr Cymru Dros Heddwch yn Y Deml Heddwch, Caerdydd
Prosiect Cynefin, Mapiau’r Degwm
Nod prosiect Cynefin, a gyllidir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, oedd digido pob Map Degwm yng Nghymru a gwneud y casgliad mor chwiliadwy â phosibl trwy ddefnyddio cyfraniadau torfol. Hefyd, roedd y prosiect yn ymgysylltu â nifer o weithgareddau estyn allan yn y gymuned Roedd y cydweithio’n cynnwys:
- Rhannu copi digidol uchel ei safon o un o’r mapiau ar drwydded agored trwy Gomin Wikimedia a monitro’r effaith
- Cynnal Golygathon Siartaeth Cymraeg fel rhan o fenter Cynefin, O Deithiau i Dreialon, gyda gwirfoddolwyr yng Ngwent
Sicrhau bod yr egwyddor o rannu cynnwys digidol yn elfen graidd
[edit]Agwedd bwysig ar y preswylio oedd sefydlu gweithdrefnau i sicrhau bod yr arfer o rannu cynnwys digidol yn parhau ar drwydded agored a chyda Wikimedia, a hynny y tu hwnt i dymor y preswylio.
Mae’r Llyfrgell wedi ymrwymo yn ei strategaeth 2017-2021 i barhau i gydweithio â Wikimedia (Gw. 6.1), ac mae’r llif gwaith ar gyfer dethol, digido a darparu mynediad i gynnwys digidol yn awr yn cynnwys rhannu deunydd ar Gomin Wikimedia, a bydd hyn yn ystyriaeth ar gyfer pob casgliad newydd sy’n cael ei ddigido. Yn ogystal, mae LlGC wedi ffurfio grŵp sy’n cwrdd yn rheolaidd i drafod a rhoi cynlluniau ar waith i rannu cynnwys digidol ar lwyfannau trydydd parti gan gynnwys Comin Wikimedia. Integreiddio digidol gyda Wikipedia
Papurau Newydd Cymru Ar-lein
Yn 2015 ail-lansiwyd y wefan boblogaidd, di-dâl, Papurau Newydd Cymru Ar-lein, gyda nodwedd oedd yn cynhyrchu cyfeiriadau’n awtomatig ar gyfer erthyglau mewn fformat Wiki. Pwrpas hyn oedd hwyluso’r defnydd o’r gwasanaeth fel ffynhonnell i olygyddion Wikipedia. Roedd hyn hefyd yn gyfle i’r Llyfrgell drwytho eu cydweithrediad â Wikimedia i’w gwasanaethau ac ysgogi defnyddwyr Wikipedia i ddolennu’n ôl trwy’r cyfeiriadau i wefan papurau newydd Cymru.
Y Bywgraffiadur Cymreig
Yn dilyn prosiectau i drawsnewid data ar gyfer y Bywgraffiadur Cymreig i Wikidata, cafodd y Wicipediwr Preswyl wahoddiad i ymuno â grŵp gweithio i ddatblygu’r gwasanaeth. Mae gwefan newydd yn cael ei chynllunio’n awr a chytunwyd ar fanylebau cychwynnol gan gynnwys dolenni i erthyglau Wikipedia cysylltiedig ynghyd â’r defnydd o Wikidata i ddatblygu nodweddion newydd megis llinellau amser, mapiau a pheirianwaith i gynyddu chwiliadau.
Cyfradd Atgyfeirio o Wikipedia i wefan LlGC
[edit]Ers amser, bu’r posibilrwydd o gynnydd mewn atgyfeiriadau o Wikipedia i wefan sefydliad sy’n cyfranogi yng ngweithgareddau Wikipedia yn abwyd i ddarpar gydweithwyr. Serch hynny, er gwaethaf cynnydd sylweddol yng nghanran yr atgyfeiriadau, prin iawn fu’r effaith o’i gymharu, er enghraifft, ag ymweliadau â delweddau, ac mae cyfanswm yr atgyfeiriadau’n dal yn isel.
Atgyfeiriadau Wikipedia En | Atgyfeirio Comin Wikimedia | |
---|---|---|
1 Ebr 15 - 12 Dec 15 | 1044 | 27 |
1 Ebr 16 - 12 Dec 16 | 1961 | 169 |
% Cynydd | 87.84% | 525.93% |
Achos Busnes ar gyfer Mynediad Agored Ehangach
[edit]Roedd cydweithio â LlGC i greu achos busnes am fynediad agored, trwy gasglu tystiolaeth a dadansoddi effaith rhyddhau cynnwys, yn un o brif dargedau’r cyfnod preswylio. Bu’r Wicipediwr Preswyl yn cydweithio’n agos â Dr Dafydd Tudur, pennaeth Mynediad Digidol, i lunio’r Achos Busnes ac fe’i cyflwynwyd gan y Wicipediwr Preswyl i Uwch Dim Rheoli’r Llyfrgell ym mis Mawrth 2017.
Mae’r Achos Busnes yn dadlau mai pur anaml y mae’r GLAMs yn elwa o atal csagliadau digidol a gwneud arian ohonynt, a bod mynediad agored yn cynyddu dylanwad, cydweithrediad, a’r cyfleoedd am ailddefnyddio a chyllid allanol. Mae’n argymell sicrhau mynediad agored diofyn at bob gwaith yn y parth cyhoeddus a gwella ansawdd y delweddau a rennir ar-lein trwy ddiwygio technoleg sgrin a bodloni disgwyliadau’r cwsmer yn well.
Cymysg fu’r adwaith ymhlith tîm rheoli LlGC i’r ddogfen. Codwyd pryderon yn benodol am allu adrannau i gyflawni targedau creu incwm pe bai’r argymhellion yn cael eu rhoi ar waith. Yr hyn y mae’r ddogfen wedi’i chyflawni yw dod â mater y mynediad agored i’r amlwg. Erbyn hyn, mae gweithlu o uwch-reolwyr wedi’i sefydlu i drafod ymateb y Llyfrgell a chyflwyno argymhellion i’r Prif Lyfrgellydd a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr. Gan fod y trafodaethau’n parhau, ni ellir datgelu’r Achos Busnes i’r cyhoedd ar hyn o bryd.
=
[edit]Cydweithio â Llywodraeth Cymru ===== Fel y trafodwyd yn adran 3.1.5, arweiniodd trafodaethau â Llywodraeth Cymru at brosiect 3 mis oedd yn anelu at wella cynnwys iaith Gymraeg ar y Wicipedia gan ddefnyddio amrywiol dechnegau. Mae diddordeb adran iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru yn y Wicipedia Cymraeg yn deillio o’r ffaith bod darparwyr gwasanaethau ar-lein enfawr megis Google a Microsoft yn ystyried maint Wikipedia a’r defnydd ohono, boed hynny mewn unrhyw iaith, wrth benderfynu faint o adnoddau i’w buddsoddi i ddatblygu gwasanaethau yn yr iaith honno. Mae hyn hefyd ynghlwm wrth ymrwymiadau’r Llywodraeth i ddatblygu gwasanaethau digidol yn yr iaith Gymraeg ac ennyn diddordeb plant yn yr iaith o fewn cyd-destun digidol.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg o 630,000 i 1,000,000 erbyn 2050[2] ac mae hwn yn gyfle i hyrwyddo’r Wicipedia Cymraeg fel llwyfan i annog y defnydd o’r iaith ysgrifenedig, ac fel y prif borth i siaradwyr Cymraeg ddod o hyd i wybodaeth wyddoniadurol yn eu mamiaith.
Mae gweithio gyda Llywodraeth Cymru wedi arwain at gydweithrediad agos â sefydliadau iaith Gymraeg eraill megis Mentrau Iaith a’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae sawl cangen Menter Iaith ranbarthol wedi mynegi diddordeb mewn penodi Wicipediwr Preswyl neu mewn derbyn hyfforddiant Wicipedia. Mae Menter Môn (Ynys Môn) wedi penodi Wicipediwr Preswyl a gyllidir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.
Y gobaith yw y bydd cyfranogiad a diddordeb y Llywodraeth yn tyfu dros amser gan arwain at gyfleoedd am newidiadau ystyrlon mewn polisi o blaid mynediad agored ar draws y sector diwylliant ac addysg yng Nghymru a chyfle i sicrhau bod y defnydd o lwyfannau Wicimedia yn elfen graidd o’r systemau addysg ar bob lefel.
Wici-Iechyd
[edit]Bellach, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi derbyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru er mwyn rhedeg prosiect 9 mis i wella erthyglau iaith Gymraeg sy’n ymwneud ag iechyd a lles, yn dilyn glasbrint y prosiect Wici-pop. Rheolir y prosiect gan y Wicipediwr Preswyl tan fis Mawrth 2018 pan fydd yn ymadael.
Amcan Strategol 3
[edit]Cefnogi’r defnydd o brosiectau Wikimedia fel cyfryngau pwysig ar gyfer addysg a dysgu yn y DU
Daeth yr amcan strategol hwn yn berthnasol i’r prosiect ym mlwyddyn 2 y preswyliad (o Ionawr 2016). Yr amcan yn y pen draw oedd datblygu glasbrint a fyddai’n sicrhau bod Wicipedia wrth wraidd y cwricwlwm cenedlaethol. Roedd cyflawni’r amcan hwn yn dibynnu’n helaeth ar dderbyn her yn seiliedig ar Wikipedia i raglen Bagloriaeth Cymru.
Fodd bynnag, cafodd gweithgareddau a phrosiectau cydweithio eraill eu cynnal gyda’r nod o sefydlu amrywiaeth eang o bartneriaethau ar draws y sbectrwm addysg.
Cynllun Ysgolhaig Preswyl
[edit]Dyfeisiwyd cynllun Ysgolhaig Preswyl Wicipedia gan Lyfrgell Wikipedia ac mae’n gweithredu’n bennaf ym mhrifysgolion yr Unol Daleithiau. Rhoddodd y fframwaith a luniwyd gan Lyfrgell Wikipedia gyfle i’r Wicipediwr Preswyl sicrhau bod Wikimedia ac addysg uwch yn dod yn elfen graidd o raglen estyn allan y Llyfrgell. Byddai unrhyw Ysgolhaig Preswyl yn y dyfodol yn cael cais i greu cynnwys Wici o ddiddordeb i’r sefydliad yn gyfnewid am fynediad di-dâl, o bell, i adnoddau electronig, arbenigedd staff ac arweiniad gan y Wicipediwr Preswyl.
Cytunodd LlGC i gynnig y cynllun, a chafodd ei addasu i gynnig yr opsiwn i ysgolheigion weithio gyda hwy fel Ysgolhaig Preswyl Wicipedia ‘traddodiadol’ neu fel ‘Ysgolhaig Preswyl Wikidata’. O ganlyniad i’r Galw am Ysgolheigion Preswyl Wicipedia, mynegwyd diddordeb o sawl tu a chafwyd un cais swyddogol, ond hyd yma rhaid aros i’r ymgeisydd ymgysylltu â’r prosiect a gytunwyd.
Derbyniasom un cais am y swydd o Ysgolhaig Preswyl Wikidata a buom yn llwyddiannus i benodi’r ymgeisydd ym mis Ebrill 2016. LlGC yw’r unig sefydliad yn y byd sy’n dal i wahodd ysgolhaig preswyl i ddatblygu ei data i Wikidata.
Mae’r ysgolhaig preswyl wedi creu Wikidata manwl ar gyfer nifer o gasgliadau’r Llyfrgell, ysgrifennu erthyglau’n gysylltiedig â Wikipedia, ymchwilio i wybodaeth ychwanegol er mwyn cyfoethogi’r data, llunio graffigwaith a dadansoddiadau manwl o’r data.
Mae’r gwaith a wnaed gan yr ysgolhaig preswyl wedi helpu i sefydlu LlGC fel cyfrannwr blaenllaw i Wikidata yn y sector GLAM ac wedi llwyr sicrhau cefnogaeth fewnol y Llyfrgell ar gyfer defnyddio Wikidata fel arf i ryddhau ac ailddefnyddio setiau data.
Cynnyrch Ysgolhaig Preswyl Wikidata
Eitemau Wikidata a crëwyd | Eitemau Wikidata a gwellwyd |
---|---|
5,967 | 214,420 |
Addysg gynradd a uwchradd
[edit]Cynhaliwyd 2 olygathon mewn partneriaeth â’r prosiect Cymru Dros Heddwch gan anelu’n benodol at blant Cyfnod Allweddol 2-3. Bu’r plant wrthi’n gweithio mewn grwpiau i ysgrifennu rhannau o erthygl gan ddefnyddio templed a dolenni a gafodd eu dethol ymlaen llaw i wybodaeth ddibynadwy.
Cynhaliwyd gweithdy ’Defnyddio Wikipedia yn gyfrifol’ yn Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 5. Gwnaed arolwg ar 40 disgybl ar eu defnydd o Wikipedia gyda’i gwaith ysgol. Tanlinellodd y canlyniadau yr angen i ymgysylltu ymhellach â’r system addysg er mwyn canolbwyntio ar wella ansawdd y cynnwys perthnasol a sicrhau bod athrawon a disgyblion yn deall sut i ddefnyddio Wikipedia yn gyfrifol.
Byth | Yn anaml | Yn aml | |
---|---|---|---|
Defnyddio Wici am gwaith cartref | 0% | 50% | 50% |
Defnyddio Wici am gwaith cwrs | 15% | 43% | 43% |
Bagloriaeth Cymru
[edit]Ym mis Mawrth 2016, gyda chefnogaeth y pennaeth addysg yn LlGC, gwnaed cais i CBAC (prif gorff arholi Cymru) gynnwys her ‘Wicipedaidd’ fel rhan o Fagloriaeth Cymru. Byddai’r her yn cynnwys dewis testun ar gyfer Golygathon, cynllunio a chynnal y digwyddiad, a dysgu cyd-ddisgyblion sut i olygu Wicipedia gan ymgorffori amrywiaeth o sgiliau, o gynllunio digwyddiadau i lythrennedd digidol.
Cymerodd CBAC 12 mis i ystyried y cynnig, ac yn y diwedd fe’i gwrthodwyd. Cafwyd rhywfaint o adborth ond mae’n ymddangos y bu camddealltwriaeth ynghylch natur y cynnig yn ogystal â phryderon am gywirdeb ffeithiol Wikipedia. Er gwneud apêl, ni chafwyd ymateb pellach gan CBAC.
Addysg Uwch
[edit]Ar y cyfan mae Addysg Uwch yn cynnig potensial gwych fel ffynhonnell barod o gyfranwyr cymwys i brosiectau Wikimedia. Yn ystod cyfnod y prosiect cynhaliwyd llawer o ddigwyddiadau trwy gydweithio â Phrifysgolion Cymru gan gynnwys Aberystwyth, Bangor, Abertawe a Chaerdydd.
Digwyddiadau a gynhaliwyd mewn neu gyda Phrifysgolion
Golygathonau | Cyflwyniadau/Gweithdai | Mynychwyr |
---|---|---|
3 | 6 | 124 |
Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth
[edit]Cytunodd arweinydd y cwrs hwn i dreialu aseiniad gan ddefnyddio offer cyfieithu Wikipedia i gynhyrchu cyfieithiad Saesneg-Cymraeg o 5000 o eiriau a fyddai’n cynnwys termau nad oedd wedi’u cyfieithu o’r blaen. Yn ystod y cyfnod 2016-17, treialodd un myfyriwr yr aseiniad ac mae trafodaethau ar y gweill i’w gyflwyno fel opsiwn i bob myfyriwr ar gyfer tymor 2017-18.
Myfyrdodau
[edit]Datganiad gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru
[edit]Mae Preswyliad Wicipedia Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi rhagori ar bob disgwyliad o ran effaith a dylanwad, ac wedi cael canlyniadau rhyfeddol ers iddo gychwyn ym mis Ionawr 2015.
Trwy waith rhagorol Jason Evans, mae prosiectau Wicimedia wedi dod â chyhoeddusrwydd helaeth i gasgliadau’r Llyfrgell a chodi ymwybyddiaeth o Gymru a’i phobl. O ganlyniad, mae 15,000 o ddelweddau o gasgliadau’r Llyfrgell wedi’u cynnwys mewn erthyglau sydd wedi cael eu gweld mwy na 250 miliwn o weithiau.
Mae’r cyfnod Preswylio wedi creu cyfleoedd i’r Llyfrgell gydweithio â nifer o grwpiau a sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt, ac i ymgysylltu â’r cyhoedd mewn gweithgareddau megis golygathonau a chyfoethogi Wikidata sy’n ymwneud â’n casgliadau cyhoeddus. Penododd y Llyfrgell Ysgolhaig Preswyl cyntaf y DU a ddaeth yn nes ymlaen yn ysgolhaig Wikidata cyntaf y byd. Mae staff y Llyfrgell wedi gweithio ochr yn ochr â’i defnyddwyr i wneud defnydd o’n casgliadau cyhoeddus er mwyn gwella ansawdd a hygyrchedd gwybodaeth am Gymru a’i phobl ar y We.
Yn y misoedd diwethaf, arweiniodd y gwaith hwn hefyd at gyfle i’r Llyfrgell ddarparu prosiectau wedi’u cyllido gan Lywodraeth Cymru er cefnogi’r Wicipedia Cymraeg. Mae’r datblygiad hwn wedi’i nodi yn ei rhaglen waith, ‘Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg’ ar gyfer 2017-21.
Yn ein barn ni, cymaint yw pwysigrwydd prosiectau Wici i Gymru fel bod y cydweithio â Wikimedia yn elfen graidd o’n cynllun strategol newydd ar gyfer ‘Cof y Genedl: Llunio’r dyfodol 2017-21’, ac erbyn hyn, mae rôl Jason Evans fel Wicipediwr yn barhaol, swydd cyntaf o’i bath yn y DU.
Roeddem wrth ein bodd o glywed bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ennill gwobr Partneriaeth y Flwyddyn Wikimedia UK 2016-17, sy’n gydnabyddiaeth o waith arbennig Jason Evans ac yn goron ar lwyddiannau un o’r Preswyliadau mwyaf ffyniannus hyd yma, mae’n siŵr.
Dr Dafydd Tudur, Rheolwr Isadran Mynediad Digidol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Myfyrdodau’r Wicimediwr Preswyl
[edit]Cychwynnais y cyfnod preswyl hwn gydag ychydig iawn o brofiad golygu a phrin oedd fy ymwybyddiaeth o brosiectau Wikimedia y tu hwnt i Wikipedia. Serch hynny, a minnau’n aelod o staff y Llyfrgell ers cryn amser, roeddwn i’n hen gyfarwydd â’r casgliadau ac yn adnabod y staff i gyd a hwythau’n fy adnabod innau. Mae’n ymddangos yn rhesymol tybio bod y ffaith fy mod yn wybyddus i’r staff wedi helpu i sefydlu deialog ac ychydig ymddiriedaeth yn gynt na phe bai rhywun o’r tu allan wedi ei benodi i’r rôl.
Cychwynnodd y prosiect ar nodyn cadarnhaol gyda rhoddion o nifer o ddelweddau a sawl digwyddiad o fewn yr ychydig fisoedd cyntaf. Wrth i ystadegau ymweliadau â delweddau gyrraedd y tîm rheoli yn fisol daeth yn amlwg mai’r metrig hwn fyddai’r meincnod llwyddiant pwysicaf ym marn rheolwyr LlGC. Roedd twf cyson y metrig hwn fis ar ôl mis bron yn sicr wedi chwarae rhan hollbwysig yn ymrwymiad y Llyfrgell i’r prosiect y tu draw i’r flwyddyn gyntaf gychwynnol.
Caniataodd y tîm rheoli i’r prosiect dyfu’n naturiol ac yn fuan iawn cydnabuwyd bod golygathonau, gweithdai a phrosiectau gwirfoddol yn ffordd dda o ymgysylltu’r cyhoedd â chasgliadau LlGC ac o adeiladu partneriaethau newydd â sefydliadau diwylliannol ac addysgol eraill. Felly, cafodd rhagor o amser ei neilltuo i gynnal digwyddiadau ac adeiladu perthynas â thîm gwirfoddoli LlGC.
Daeth hi’n amlwg bod angen llawer llai o adnoddau i drefnu digwyddiadau wrth i ni weithio mewn partneriaeth ag eraill neu wrth gynllunio fel rhan o ddigwyddiad neu ddathliad ehangach. Roedd hyn hefyd yn ei gwneud hi’n haws denu golygyddion i’r digwyddiad. Felly, daeth hwn yn fformat roeddem yn ceisio’i ddilyn ble bynnag roedd hi’n bosibl.
Yn gynnar yn y cyfnod preswylio, roedd y Llyfrgell yn mynd trwy gyfnod o ailstrwythuro sylweddol o ran staffio ac ar adegau roedd hyn yn arafu’r prosesau gwneud penderfyniadau, yn enwedig o ran cytuno ar fanylion y rhoddion o gynnwys. Serch hynny, ar y cyfan mae’r Llyfrgell wedi bod yn gefnogol iawn o fentrau mynediad agored.
Efallai mai’r canlyniad mwyaf annisgwyl ond mwyaf dymunol oedd diddordeb y cyfryngau lleol yn y prosiect, sydd wedi arwain at gyhoeddusrwydd ardderchog i Wikimedia UK, y Llyfrgell Genedlaethol a’r prosiect. Yn ei dro, mae’r amlygrwydd hwn wedi denu cydweithwyr, partneriaid a chyfranwyr newydd. Felly, rwy’n argyhoeddiedig ei bod yn werth neilltuo’r amser angenrheidiol i gofnodi a hyrwyddo pob agwedd ar breswyliad fel hwn trwy flogiau a chyfryngau cymdeithasol.
Yn wahanol i sawl preswyliad blaenorol, mae’r prosiect cyfan hwn wedi’i redeg yn ddwyieithog gyda’r nod o gynyddu helaethrwydd ac ansawdd gwybodaeth yn yr iaith Gymraeg ac am Gymru trwy’r iaith Saesneg. Mae gweithredu’r prosiect a chreu’r holl ddogfennaeth yn ddwyieithog yn dod â’i sialensiau ei hun ond mewn gwirionedd mae gwneud hynny wedi tanlinellu pa mor hyblyg a chynhwysol yw’r llwyfan WiKi wrth gyfrannu mewn sawl iaith wahanol.
Bu Wikimedia UK yn gefnogol dros ben o’r preswyliad mewn sawl ffordd. Efallai mai eu gallu i’m rhoi i mewn cysylltiad â Wikipedwyr eraill ac aelodau sefydledig o’r gymuned Wikimedia yw eu cyfraniad mwyaf gwerthfawr, ynghyd â gwybodaeth ac arbenigedd y tîm ei hun. Wrth gael mynediad i’r rhwydwaith hwn o Wikimedwyr a Wikipedwyr rwyf wedi dysgu sgiliau amhrisiadwy ac wedi fy ysbrydoli i fynd ar drywydd syniadau a chyfleoedd newydd.
Yn olaf, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd casglu, dehongli, a ‘delweddu’ metrigau. Wnaiff prosiect fyth lwyddo os na allwch ei roi ar brawf! Bu metrigau trwyadl, hawdd eu deall, yn hanfodol trwy gydol y prosiect i adeiladu ymddiriedaeth, dealltwriaeth a brwdfrydedd tuag at weithgareddau a phrosiectau, a nhw yw’r unig reswm y bu’n bosibl rhedeg y prosiect cyhyd.
Heriau
[edit]Mae gan bob prosiect ei sialensiau a ‘d yw Preswyliad Wicimedia ddim gwahanol. Roedd sawl un o’r sialensiau a wynebwyd yn gyfarwydd ond roedd eraill yn dueddol o fod yn unigryw i amgylchfyd y Sefydliad a hefyd lleoliad daearyddol y Llyfrgell.
Y Pum Brif Her
[edit]- Ceisio ymgysylltu â’r gymuned olygu sefydledig yng Nghymru
- Sicrhau amser staff technegol prysur i baratoi data ar gyfer uwchlwytho
- Sicrhau consensws ar ansawdd priodol delweddau i’w rannu ar Comin
- Argyhoeddi rhanddeiliaid bod mynediad agored o’r budd mwyaf iddynt
- Addysgu eich hunan sut i uwchlwytho ar raddfa fawr i Wikidata
Gwersi a Ddysgwyd
[edit]Roedd y prosiect cyfan yn llethr dysgu, ac fe ddysgwyd llawer gwers ar hyd y ffordd. Mae natur preswyliad Wicimedia yn aml yn galw am lawer o arbrofi a dysgu trwy gamgymeriadau.
Y Pum Gwers Bwysicaf a Ddysgwyd
[edit]- Mae rhoi cyhoeddusrwydd i weithgareddau ac adrodd amdanynt mor bwysig â’r gweithgaredd ei hun
- Mae’n bosibl i unrhyw un fod yn wirfoddolwr, rhaid i chi ond ennyn eu diddordeb
- Golygathonau – byddwch yn uchelgeisiol ond dechreuwch gyda chamau bach
- Mae newidiadau ystyrlon mewn polisi mewn sefydliadau mawr yn cymryd llawer iawn o amser
- Dilynwch bob arweiniad gan mai ond ffracsiwn fydd yn dwyn ffrwyth
Argymhellion
[edit]Cefnogaeth i brosiectau Wicimediwr Preswyl newydd
[edit]Mae cyfeiriad unrhyw breswyliad yn dibynnu’n gyfan gwbl ar leoliad, brwdfrydedd ac agenda’r sefydliad. Felly fydd hi’n amhosibl cael cyfarwyddiadau safonol neu lasbrint i breswylwyr newydd eu dilyn. Fodd bynnag, byddai portffolio thematig, wedi’i ddiweddaru’n rheolaidd, o astudiaethau achos gan breswylwyr y gorffennol a’r presennol yn gymorth i bob Wicipediwr Preswyl newydd.
Erbyn diwedd y preswyliad roedd WMUK wedi ymateb i’r adborth gan drefnu cyfarfodydd mwy rheolaidd â Wikipedwyr Preswyl. Bu hyn yn fantais fawr gan fod pawb wedi gallu rhannu eu profiadau. Hefyd, byddai diwrnod cynefino dechreuol yn cynnwys cyflwyniadau syml i’r prif brosiectau (Wikipedia, Wikidata, Commons, Wikisource ac ati…) wedi bod yn ddefnyddiol dros ben ar gychwyn y prosiect.
Metrigau
[edit]Mae gan Wikimedia amrediad o offer wedi’u datblygu i ddefnyddwyr gofnodi metrigau megis Baglama2 ar gyfer ymweliadau â delweddau, a Glamorous at ddefnyddio delweddau, ond mae llawer o offer eraill hefyd sy’n gwneud yr un gwaith fwy neu lai, e.e. GLAMorgan, sydd hefyd yn galluogi pobl i weld y delweddau ond mae’n eu cyfrifo ychydig yn wahanol fel bod y ffigwr ar y diwedd yn wahanol i Baglama2. Yn ogystal, mae llawer o’r offer hyn wedi’u cynhyrchu a’u cynnal gan un unigolyn, sy’n eu gwneud yn fwy tebygol o fethu. Un argymhelliad fyddai llunio rhestr o’r offer a ffafrir ac a ddylai gael eu defnyddio gan bob Wicipediwr Preswyl i sicrhau cysondeb.
A bwrw bod metrigau yn hollbwysig i GLAMs fesur llwyddiant eu prosiectau gyda’r Wicipediwr Preswyl a bod angen metrigau manwl ac astudiaethau achos er mwyn hyrwyddo cydweithio â Wikimedia a chefnogi mynediad agored yn gyffredinol, fe fyddai achos hefyd i’r Sefydliad Wikimedia fuddsoddi mewn dangosfwrdd metrigau a reolir yn ganolog ar gyfer cydweithwyr GLAM-Wiki, gydag amrediad o fetrigau’n cynnwys ymweliadau â delweddau, cliciau dolenni i URL’s penodedig, ystadegau digwyddiadau ac ati.
Dylai pob Wicimediwr Preswyl yn y DU gael gwybod am yr ystadegau a gesglir am eu prosiectau gan WMUK a dylid rhannu’r data hwn yn agored â’r holl randdeiliad lle bo’n briodol, gan y gallai fod yn gynsail i waith y Wicimediwr Preswyl ac y gellid ei ddefnyddio i hyrwyddo neu gyfiawnhau prosiectau o fewn y sefydliad sy’n cyfranogi.
Cyfathrebu
[edit]Mae Wikimedia UK wedi bod yn effeithiol iawn yn adnabod gorgyffyrddiadau ym mhrosiectau Wicipedwyr Preswyl ac wrth gysylltu â’r unigolion perthnasol. Pe gallai’r arfer hwn hefyd gynnwys mwy o wirfodddolwyr allweddol neu wirfoddolwyr â sgiliau arbenigol, byddai o gymorth i’r Wicipedwyr Preswyl adeiladu perthynas mwy buddiol â’r gymuned a gallai helpu i bontio’r bylchau sgiliau o fewn sefydliadau.
Eiriolaeth Mynediad Agored
[edit]Mae’r fframwaith drwyddedu - Europeana Licensing Framework[3] - yn rhestru’r safonau gofynnol ar gyfer ansawdd delweddau, y mathau o drwyddedau a safonau data wrth rannu â Llyfrgell Ddigidol Europeana. Gallai creu canllawiau tebyg i bartneriaid GLAM-Wiki, yn seiliedig ar argymhellion Europeana, dawelu rhai dadleuon mewnol ynglŷn ag ansawdd y cynnwys a rennir â Chomin Wikimedia ac felly helpu i godi safon a chynyddu maint y data sy’n cael ei rannu.
Etifeddiaeth y Preswyliad Wicimedia yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
[edit]Bu dylanwad y preswyliad ar Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn fawr, gyda channoedd o filiynau o bobl wedi ymweld â’r delweddau, a’r rhaglen brysur o ddigwyddiadau a thasgau gwirfoddol wedi cael yr effaith fwyaf ar agweddau tuag at fynediad agored a phrosiectau Wikimedia yn fwy penodol.
Cynllun Strategol LlGC 2017-2021
[edit]Gellir gweld effaith y preswyliad ar strategaeth a pholisi’r Llyfrgell yn eglur yn ei chynllun 5 mlynedd newydd, ‘Cof y Genedl: Llunio’r Dyfodol’ sy’n cwmpasu 2017-2021. Mae’r Strategaeth yn rhoi’r lle canolog i Wikimedia wrth estyn allan yn ddigidol, gan ddatgan:
Bydd ein partneriaeth lwyddiannus â Wikimedia UK sydd wedi arwain at fwy na 200 miliwn ymweliad â delweddau o’n casgliadau yn cael ei datblygu ymhellach a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ehangu’r Wicipedia Cymrae[4]
A bydd targedau’r Llyfrgell ar gyfer 2021 yn cynnwys:
Parhau i weithio gyda Wikimedia UK i ddatblygu a sicrhau bod ymgysylltu digidol yn greiddiol i’n cynnwys agored ar Wikipedia a llwyfannau trydydd parti eraill er mwyn cynyddu’r ymweliadau â chynnwys y Llyfrgell i 250 miliwn erbyn 2021 a chyfrannu’n ddyfal i ddatblygiad y cynnwys iaith Gymraeg ar Wicipedia[4]
Mae hyn yn dangos ymroddiad LlGC i barhau i weithio gyda WMUK a’r gymuned Wikimedia am y tymor hir, ac i barhau i rannu ei chynnwys digidol yn agored â phrosiectau Wikimedia. Mae’r Llyfrgell hefyd wedi gweld cyfle i gefnogi Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg trwy ddatblygu’r Wicipedia Cymraeg ac adnoddau cysylltiedig yn yr iaith Gymraeg.
Mynediad Agored
[edit]Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru bolisïau mynediad agored cadarn eisoes, ond mae’r preswyliad a’i ganlyniadau, sy’n cyrraedd ei benllanw gyda’r achos busnes, wedi aildanio’r ddadl am fynediad agored ymhlith yr uwch-reolwyr. Gobeithio bydd y ddadl hon yn arwain at fynediad agored ehangach ac agwedd mwy strwythurol a chyson tuag at drwyddedu a rhannu cynnwys digidol dan delerau mynediad agored.
Wicimediwr Parhaol yn y Llyfrgell Genedlaethol
[edit]Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi sicrhau bod swydd y Wicimediwr yn elfen graidd o’r tîm mynediad digidol gan greu swydd barhaol, amser llawn, a gyllidir yn llwyr o fewn ei strwythur staffio. Bydd deiliad y swydd yn gweithio mewn partneriaeth â WMUK ac eraill i gydlynu gweithgareddau’n seiliedig ar Wikimedia yn LlGC gan gynnwys rhannu deunydd agored, trefnu digwyddiadau a phrosiectau gwirfoddol a hyrwyddo mynediad agored o fewn y sefydliad a hefyd yn ehangach ar draws y sector diwylliant.
Dyma’r tro cyntaf i sefydliad diwylliannol cenedlaethol benodi Wicimediwr parhaol o fewn ei sefydliad. Bu Daria Cybulska yn ystyried hyn o ddifrif gan ddweud: “Rhaid rhoi clod i LlGC am fod mor flaengar, eangfrydig, am ei dull o weithredu agored ac am ei hymrwymiad i ddarparu mynediad rhad ac am ddim i wybodaeth.
Dolenni defnyddiol
[edit]- Tudalen prosiect y prosiect, sydd yn cynnwys adroddiadau misol, ystadegau, blogiau ayyb
- Ystadegau Delweddau
- Delweddau o'r Llyfrgell ar Comin
- Adolygiad 12 mis
- 2015-2016 Wikimedia UK Impact report
- 2015-2016 Wikimedia UK Progress report
- 2014-2015 Wikimedia UK Impact report
Cyfeiriadau
[edit]- ^ "Wicipop Project Report". Wikipedia. Jason Evans. 19 June 2017. Retrieved 20 July 2017.
- ^ "Welsh Government - Vision for one million Welsh speakers launched". gov.wales. Retrieved 31 May 2017.
- ^ "Europeana Licensing Framework" (PDF). Europeana.
- ^ a b "The Nation's Memory: Informing the Future. Strategic Plan 2017-2021" (PDF). National Library of Wales. p. 17 + 24.